Teithio Llesol Cymru
Hwyluso Teithio Lleso
Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn teithio, a hynny ar frys.
Nid yw gwneud dim yn opsiwn. Mae ein dibyniaeth ar y car fel ffordd o deithio’n rheolaidd wedi arwain at ddiffyg ymarfer corff, llygredd aer, unigedd cymdeithasol, a’r argyfwng hinsawdd.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae sefydliadau ledled Cymru yn dangos eu hymrwymiad i ddulliau trafnidiaeth mwy llesol a chynaliadwy, drwy lofnodi Siarter Teithio Llesol yn gyhoeddus. Mae pob Siarter yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau y bydd y sefydliad yn ymrwymo iddynt dros 2 neu 3 blynedd i gefnogi eu staff ac ymwelwyr i gerdded a beicio mwy, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydan.
|
|