Siarter Teithio Llesol Gogledd Cymru
Cymeradwywyd Siarter Teithio Llesol Gogledd Cymru gan Fwrdd Arwain Rhanbarthol Gogledd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Cytunwyd y byddai’r gwaith o roi’r Siarter ar waith yn cael ei arwain gan y tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Ynys Môn a Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, a Wrecsam a Sir y Fflint) a'u sefydliadau unigol sy'n aelodau. Mae sefydliadau sy'n llofnodi'r Siarter yn ymrwymo i weithio tuag at 15 o gamau gweithredu sy'n cyfrannu at hyrwyddo teithio llesol ar gyfer eu staff a defnyddwyr gwasanaeth. Darllenwch fwy am y rheswm y mae teithio llesol yn bwysig. |
Sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Siarter
Os oes gennych ddiddordeb mewn arwyddo’r Siarter, anfonwch e-bost at y cydlynydd arweiniol isod gan gynnwys manylion eich rôl, eich sefydliad, a’r ffordd orau o gysylltu â chi.
Gall sefydliadau llofnodol ddod o hyd i ddeunyddiau ategol ar gyfer gweithredu'r Siarter ar y dudalen Adnoddau ac yn ardal yr Aelodau. Cydlynydd arweiniol: Tîm Iechyd Cyhoeddus BIPBC. |