Gwybodaeth am Teithio Llesol Cymru
Cefndir
Mae Teithio Llesol Cymru wedi deillio o waith a ddechreuodd yng Nghaerdydd, ac wedi hynny Bro Morgannwg, i ddatblygu dull ar draws y sector cyhoeddus o sicrhau dulliau teithio llesol a chynaliadwy. Caiff gwaith ei arwain gan Dr Tom Porter o dîm iechyd cyhoeddus lleol Caerdydd a’r Fro, gan weithio ar y cyd â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff eraill. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Symud Ymlaen yn 2017 (mae crynodeb o’r adroddiad ar y dudalen Pam teithio llesol?). Ar ôl lansio’r Siarteri’n llwyddiannus yn yr ardaloedd hynny, gwelwyd diddordeb mewn cyflwyno’r Siarter mewn rhannau eraill o Gymru ac mewn gwahanol sectorau, gan gyflwyno Siarteri yn ehangach ddechrau 2020. Wrth i’r gwaith gael ei gyflwyno, bydd arweinwyr lleol pob ardal yn gyfrifol am weithredu’r Siarter (gweler y rhestr ar y dudalen Siarter berthnasol). Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y bobl a’r sefydliadau a ganlyn, yn enwedig Fiona Kinghorn ac Andrew Gregory. Cyllid Mae’r gwaith yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys gwaith cychwynnol ar y Siarter, yn cael ei gyllido gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n darparu’r cyllid ar gyfer cyflwyno Siarteri yn ehangach ar draws Cymru. Diolchiadau Dr Sarah Aitken, Adrian Field, Dr Sharon Hopkins, Andrew Gregory, Fiona Kinghorn, Richard Lewis, Brian Marsh, Eryl Powell, Lucy Usher; a holl brif gynrychiolwyr y sefydliadau sydd wedi llofnodi Siarter Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, tîm Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro, FOR Cardiff; a’r holl sefydliadau sydd wedi llofnodi Siarter |