Siarter Teithio Llesol i Fusnesau
Lansiwyd y Siarter Teithio Llesol i Fusnesau ym mis Ionawr 2020.
Mae’r Siarter yn ddelfrydol i fusnesau sy’n awyddus i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol drwy ymrwymo i gyfres o gamau gweithredu i sicrhau bod teithio llesol yn haws i’w staff, eu cwsmeriaid a’u cleientiaid. Gall y Siarter gael ei llofnodi gan fusnesau o unrhyw faint, ond mae’n arbennig o addas ar gyfer busnesau sydd â nifer sylweddol o staff. Cafodd y Siarter ei datblygu ar y cyd â FOR Cardiff, sef Ardal Gwella Busnes Caerdydd, gyda chyfraniad gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd. Mae’r sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Siarter wedi ymrwymo i 15 o gamau gweithredu penodol dros dair blynedd, ac maent i’w gweld isod. Darllenwch fwy am y rheswm y mae teithio llesol yn bwysig. |
Lawrlwythwch y Siarter Teithio Llesol i Fusnesau (PDF)
Os oes gennych chi ddiddordeb llofnodi’r Siarter, cysylltwch â’ch prif gydlynydd isod drwy anfon neges e-bost ato. Rhowch rywfaint o gefndir gan gynnwys y sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli a’r ffordd orau o gysylltu â chi. Diolch.
Gall y sefydliadau sydd wedi llofnodi Siarter gael gafael ar ddeunyddiau ategol i weithredu’r Siarter ar y dudalen Adnoddau ac yn ardal yr Aelodau.
Prif gydlynydd: Dr Tom Porter
Gall y sefydliadau sydd wedi llofnodi Siarter gael gafael ar ddeunyddiau ategol i weithredu’r Siarter ar y dudalen Adnoddau ac yn ardal yr Aelodau.
Prif gydlynydd: Dr Tom Porter