Pam mae teithio llesol yn bwysig?
Mae lleihad mewn lefelau ymarfer corff, cynnydd mewn lefelau gordewdra a diabetes, problem fawr o ran llygredd aer ac unigedd cymdeithasol, a mwy o anghydraddoldeb iechyd oll yn broblemau dybryd i iechyd y cyhoedd. Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol sydd eisoes i’w weld yn y DU ac ar draws y byd.
Mae newidiadau yn ein patrymau teithio a’r ffordd rydym yn cynllunio ein hamgylchedd ar gyfer teithio wedi chwarae rhan fawr yn y problemau hyn. Os ydym am ddadwneud y tueddiadau hyn yn iechyd y boblogaeth a’r ddaear, a chreu dyfodol iachach, mwy cynaliadwy i’n pobl, mae angen cymryd camau blaengar yng Nghymru. |
Am ragor o fanylion ac i gael gwybod lle i gael y wybodaeth lawn sydd i’w gweld yma, darllenwch yr adroddiad Symud Ymlaen.
|
Sut rydym wedi cyrraedd y sefyllfa hon?
Tra bod y defnydd o geir wedi cynyddu’n sylweddol dros y 50 mlynedd ddiwethaf, mae ein lefelau cerdded a beicio, a’n defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, wedi gostwng. Mae’r rhan fwyaf o ddatblygiadau tai a datblygiadau masnachol dros yr hanner canrif diwethaf wedi bod yn seiliedig ar geir, nid pobl. |
Yr effaith ar iechyd a lles
Mae’r newid hwn mewn dulliau teithio wedi cyfrannu at ostyngiad mawr mewn lefelau ymarfer corff, ac mae hynny yn ei dro yn gysylltiedig â risg gynyddol o salwch, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, canser a diabetes. Mae trafnidiaeth ar y ffyrdd yn ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol at lygredd aer niweidiol, ac mae’n gyfrifol am tua 1,000 o ddamweiniau sy’n achosi anafiadau difrifol neu farwolaeth bob blwyddyn yng Nghymru. Gan fod ein hamgylchedd wedi cael eu datblygu gyda cheir mewn golwg, mae’r rhyngweithio o fewn a rhwng cymunedau wedi lleihau. Gwelir nifer o effeithiau negyddol trafnidiaeth ar y ffyrdd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, gan arwain at waethygu lefelau anghydraddoldeb iechyd. Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r risg o dywydd difrifol gan gynnwys llifogydd, a bydd hyn yn effeithio fwyfwy ar ein cymunedau a’n seilwaith. |
Mae diffyg ymarfer corff ymhlith pobl yn gysylltiedig â chynnydd o 91% yn y risg o gael diabetes math 2. |
Gallem wneud pethau’n wahanol
Gallai iechyd a lles o fewn ein cymunedau wella cryn dipyn pe bai teithio llesol yn dod yn fwy cyffredin ar gyfer teithiau byr, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hwy, a byddai hynny’n arwain at wella ansawdd yr aer. Dyma’r amser i newid Mae nifer o gyfleoedd i’w cael nawr i’n helpu ni i wneud newid mawr yn y ffordd yr ydym yn symud:
Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – ac ar gyfer y presennol Mae’r Siarteri Teithio Llesol yn un ffordd o sicrhau gweledigaeth ehangach o ran trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys:
|
Y manteision
Os ydym yn llwyddo wrth wneud hyn, mae’r manteision posibl yn cynnwys lleihau’r gyfradd o glefydau cardiofasgwlaidd (gostyngiad o 20-35% yn nifer yr achosion), canser (gostyngiad o 20-30% yn y risg o ganser y coluddyn a chanser y frest), gordewdra a diabetes (gostyngiad o 30-40% yn nifer yr achosion); gwelliant mewn lles meddwl; a llai o absenoldeb oherwydd salwch.
Mae’r manteision ehangach yn cynnwys llai o anghydraddoldeb o ran disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig; gwell cyswllt ymhlith cymunedau a llai o unigrwydd; llai o lygredd aer a llai o allyriadau carbon sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang; a llai o alw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Pawb yn chwarae ei ran: yr hyn sydd angen i ni ei wneud gyda’n gilydd
Os ydym am sicrhau gwelliant sylweddol a chyson yn ein hiechyd a’n lles, mae’n rhaid i ni gymryd camau pendant nawr a thros y 5 mlynedd nesaf, a hynny mewn pedwar prif faes.
Pa gamau y gallaf i eu cymryd? Ar lefel unigol, bydd cerdded a beicio’n amlach a lleihau eich defnydd o gar preifat (os oes gennych un) yn gwella eich lles corfforol a’ch lles meddyliol, a bydd yn lleihau llygredd aer. Man cychwyn da yw gadael y car gartref un diwrnod yr wythnos a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Os ydych chi’n ystyried newid eich car, meddyliwch yn gyntaf oll a oes angen car arnoch chi (yn enwedig os oes dau gar gennych eisoes)? Os oes angen car arnoch o hyd, a allai’r car hwnnw fod yn un trydan? Os ydych yn gweithio i sefydliad yn un o’r ardaloedd sy’n cael eu cynnwys yn y Siarteri presennol, gofynnwch i’ch cyflogwr a yw’n cynnig unrhyw gymorth i chi wneud y newid hwnnw. Os nad yw eich cyflogwr wedi llofnodi Siarter eto, cynigiwch iddynt wneud hynny. Ni fydd llygredd aer, newid yn yr hinsawdd a diffyg ymarfer corff yn cael eu datrys gan un person ar ei ben ei hun, ond gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth – felly cymerwch y cam cyntaf nawr. |
Diddordeb?
Mae mwy o wybodaeth am y materion hyn yn ein hadroddiad Symud Ymlaen, neu gallwch wrando ar Dr Tom Porter a Bryn Kentish yn trafod teithio llesol a'r Siarteri yn y podlediad isod.
Mae mwy o wybodaeth am y materion hyn yn ein hadroddiad Symud Ymlaen, neu gallwch wrando ar Dr Tom Porter a Bryn Kentish yn trafod teithio llesol a'r Siarteri yn y podlediad isod.