Diweddariad Coronafeirws
Er mwyn atal lledaeniad coronafeirws, dilynwch ganllawiau teithio diweddaraf Llywodraeth Cymru. Lle mae taith yn hanfodol, dylech gerdded neu feicio os gallwch chi. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i redeg yn y rhan fwyaf o leoedd os bydd ei hangen arnoch ond efallai y bydd amserlenni diwygiedig ar waith.
Yn ystod y cyfyngiadau symud rydym wedi gweld arferion gwaith hwylusach yn dod i'r amlwg, a chipolwg ar fyd lle rydyn ni'n teithio o gwmpas mewn ffyrdd sy'n iachach, yn fwy caredig i’r amgylchedd, ac yn fwy o hwyl. Darganfyddwch fwy am y Siarteri Teithio Iach a sut y gall eich sefydliad ymrwymo i symud ymlaen yn gyflym i'r dyfodol hwn, gan ymgorffori teithio iach er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ein Hadduned Covid-19 (Fersiwn Gymraeg yn dod yn fuan) |